Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Offerynnau statudol gydag adroddiadau clir

22 Mehefin 2015

 

CLA541 - Rheoliadau’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (Cymru) 2015

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Sefydlwyd y Bwrdd Diogelu Cenedlaethol ("y Bwrdd") a sefydlwyd gan adran 132 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.  Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi trefniadau ar gyfer penodi i'r Bwrdd ac ar gyfer ei drafodion, gan gynnwys sefydlu grwpiau atodol, ymgynghori â'r rhai y mae gwaith y Bwrdd yn effeithio arnynt a'r trefniadau ar gyfer adroddiad blynyddol y Bwrdd i Weinidogion Cymru.

 

Mae'r Rheoliadau hyn i'w darllen ar y cyd â Rheoliadau Byrddau Diogelu (Cyffredinol) (Cymru) 2015 a Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015.

 

CLA542 -Rheoliadau Byrddau Diogelu (Cyffredinol) (Cymru) 2015

 

Gweithdrefn:Negyddol

 

Mae'r rheoliadau hyn yn ymwneud â'r Byrddau Diogelu Plant a sefydlwyd o dan adran 134(4) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 ("y Ddeddf") a Byrddau Diogelu Oedolion a sefydlwyd o dan adran 134(5) o'r Ddeddf (y cyfeirir atynt gyda'i gilydd fel Byrddau Diogelu).

 

Diben y Rheoliadau yw darparu ôl troed cydlynol, cyffredin ar gyfer sefydlu byrddau diogelu drwy nodi'r prif bartneriaid ar gyfer oedolion a'r prif bartneriaid ar gyfer plant ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r partneriaid hynny sefydlu Byrddau Diogelu ar gyfer eu hardaloedd.

 

Mae'r Rheoliadau hyn i'w darllen ar y cyd â Rheoliadau’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (Cymru) 2015 a Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015.

CLA543 - Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015

 

Gweithdrefn:Cadarnhaol

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer swyddogaethau a gweithdrefnau Byrddau Diogelu Plant a Byrddau Diogelu Oedolion a sefydlwyd o dan adran 134 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.  Maent yn cynnwys y meini prawf y mae Bwrdd i'w defnyddio wrth benderfynu a ddylid cynnal adolygiad ymarfer sy'n ymwneud â'r camau sydd i'w cymryd er mwyn cyflawni gwelliannau yn arferion aml-asiantaeth amddiffyn plant ac oedolion.

 

Mae'r Rheoliadau hyn i'w darllen ar y cyd â Rheoliadau’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (Cymru) 2015 a Rheoliadau Byrddau Diogelu (Cyffredinol) (Cymru) 2015.

 

 

CLA544 - Rheoliadau Gorchmynion Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion (Swyddog Awdurdodedig) (Cymru) 2015

 

Gweithdrefn:Cadarnhaol

 

Mae adran 127(9) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n cyfyngu ar y personau neu'r categorïau o bersonau y caiff awdurdod lleol eu hawdurdodi i wneud cais am orchymyn Amddiffyn a Chefnogi Oedolion o dan adran 127.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu na chaiff awdurdod lleol awdurdodi neb i wneud cais am Orchymyn Amddiffyn a Chefnogi Oedolion ond person a chanddo brofiad perthnasol o weithio ym maes gofal cymdeithasol gydag oedolion sydd, neu a all fod, mewn perygl.  Mae'n rhaid i berson a awdurdodwyd felly hefyd fod wedi cwblhau hyfforddiant priodol a bod yn swyddog i'r awdurdod lleol sy'n awdurdodi.

 

 

 

 

CLA545 - Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Mentrau Cymdeithasol, Cydweithredol a Thrydydd Sector) (Cymru) 2015

 

Gweithdrefn:Cadarnhaol

 

Mae adran 16 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ("y Ddeddf") yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mudiadau cydweithredol, trefniadau cydweithredol a sefydliadau trydydd sector i ddarparu gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol yn eu hardaloedd.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn manylu'r mathau o sefydliadau neu drefniadau sy'n dod o dan y categorïau hynny ac yn darparu ar gyfer yr hyn y gellir ei ystyried yn rhesymol yn weithgaredd er budd y gymdeithas.

 

 

CLA546 -Rheoliadau Gofal a Chymorth (Trefniadau Partneriaeth ar gyfer Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015

 

Gweithdrefn:Cadarnhaol

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu ym mha ffordd y dylai awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ar y cyd gynnal yr asesiadau poblogaeth o anghenion gofal a chymorth ac anghenion gofalwyr sy'n ofynnol o dan adran 14 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.

 

Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol bod trefniadau partneriaeth i gael eu rhoi ar waith i gynnal yr asesiad, gan ganiatáu i asesiad poblogaeth cyfunol gael ei greu, a thrwy hynny mae'n caniatáu i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ganfod sut i ddiwallu anghenion ar y cyd.

 

Dylid darllen y Rheoliadau hyn ar y cyd â Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015.

 

 

 

CLA547 - Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015

 

Gweithdrefn:Negyddol

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ar y cyd gynhyrchu asesiad poblogaeth o anghenion gofal a chymorth ac anghenion gofalwyr. Nod yr asesiad yw llywio penderfyniadau cynllunio a gweithredol, a hwyluso ymyrraeth a gwaith ataliol cynnar.  Fel rhan o'r asesiad, bydd angen i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol hefyd nodi ystod a lefel y gwasanaethau ataliol y mae’n rhaid wrthynt er mwyn bodloni'r dibenion hynny.

 

Dylid darllen y Rheoliadau hyn ar y cyd â Rheoliadau Gofal a Chymorth (Trefniadau Partneriaeth ar gyfer Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015.